Croeso – a diolch i chi am ddod draw! Lindy ydw i – Y Dathlydd Cymraeg.
Felly – ‘Da chi wrthi’n cynllunio priodas byth cofiadwy, ac angen seremoni a fydd yn dweud eich stori caru mewn ffordd sy’n hollol unigryw i chi. Wel – y fi yw’r Dathlydd i chi!
Byddaf yn siwr o gynnig y gwasanaeth a’r gefnogaeth orau er mwyn sicrhau eich bod yn cael y seremoni yr ydych yn ei haeddu gyda chynnwys personol ac unigryw.
Os ydych chi’n cynllunio’ch seremoni yn rhywle arbennig, yn yr awyr agored neu hyd yn oed oddi ar y trac, byddaf yn siwr o gynnig gwasanaeth o’r safon uchaf i chi.
Cysylltwch a mi i drefnu amser ar gyfer sgwrs anffurfiol, sy’n rhad ac am ddim, er mwyn cychwyn eich taith i drefnu seremoni perffaith.