Mae seremoniau sy’n cael eu cynnal dan arweiniad Dathlyddion yn golygu mai chi sydd yn y sedd yrru ac yn penderfynu beth yn union ydych chi’n dymuno ar gyfer eich diwrnod mawr.
Fel dathlydd, byddaf yn mynd ati i lunio seremoni sy’n cynnwys popeth a fydd yn arbennig i chi. Bydd yn bersonol, yn hollol unigryw ac yn fwy na thebyg, yn llawer o hwyl! Mae pob seremoni wedi’i hysgrifennu o’r newydd a gall fod mor draddodiadol neu fodern ag y dymunwch.
Nid yw dathlyddion yn cael eu rhwymo gan unrhyw gyfyngiadau sy’n golygu does dim ffiniau i beth allwch ddewis ar gyfer eich seremoni.
Gallwch gyfuno, dylunio ac ychwanegu unrhyw beth gan gynnwys cyfyniadau gan ffrindiau a theulu, defodau symbolaidd, cerddoriaeth byw, darlleniadau, barddoniaeth, siot o tequila – mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Byddaf gyda chi o’r cychwyn cyntaf hyd at y seremoni ei hun, i drafod syniadau, ateb unrhyw gwestiynau a chynnig y gefnogaeth orau i chi.
Felly, os ydych yn chwilio am ddathlydd modern, hwyliog a hamddenol – cysylltwch â mi!