Seremoni Enwi

Mae seremoni enwi yn ffordd wych o ddathlu genedigaeth babi newydd neu i groesawu plentyn neu lysblant mabwysiedig i’ch teulu a’ch cymuned ehangach. Mae llawer o deuluoedd yn dewis cynnal seremoni enwi er mwyn dathlu bod aelod newydd i’r teulu wedi cyrraedd.

Nid oes gan seremonïau enwi unrhyw ofynion cyfreithiol na chrefyddol gyda’r cyfle i lunio seremoni bersonol ac unigryw.

Cyfle arbennig i rannu eich gobeithion a’ch breuddwydion ar gyfer eich plentyn. Bydd gennych yr opsiwn i gynnwys darlleniadau a cherddoriaeth yn y seremoni, neu elfen wahanol fel plannu coeden feu fylbiau, goleuo canhwyllau, neu creu blwch atgofion.

Gan nad oes unrhyw agwedd gyfreithiol ynghlwm â’r seremoni, gellir ei gynnal lle bynnag y dymunwch, cyn belled â bod gennych y caniatâd angenrheidiol. Gellir cynnal seremonïau gartref, yn yr ardd, mewn parc, yn y coed, mewn gwesty neu yn eich canolfan gymunedol leol.