Partneriaeth Sifil

Mae eich perthynas yn unigryw, nid oes unrhyw berthynas arall yn debyg. Fel dau berson annibynnol yn dod at ei gilydd mewn ffordd arbennig, rydych yn haeddu Seremoni sy’n mynegi eich cariad a’ch ymrwymiad i’ch gilydd mewn ffordd gwbl unigryw, personol ac ystyrlon. Does dim angen  setlo am rywbeth sy’n teimlo’n amhersonol a diflas!

Chi fel cwpl fydd yn  y sedd yrru a wir i chi does dim rheolau o gwbl i beth allwch ddewis ar gyfer eich diwrnod mawr – y lleoliad, y gerddoriaeth, y darlleniadau, mae’r cyfan i fyny i chi.  Beth am i chi ychwanegu elfen wahanol fel rhwymo dwylo (handfasting) neu goleuo canhwyllau fel rhan o’ch seremoni?

Byddaf yn cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod fel cwpl er mwyn casglu eich syniadau ac hanesion, dod a’r cwbl at ei gilydd a’i gyflwyno i’ch teuluoedd a’ch ffrindiau mewn ffordd arbennig.

Felly os ydych chi eisiau dawnsio eich ffordd i lawr yr eil,  canu eich hoff gan neu cynnig ‘shot’ o’ch hoff ddiod i’ch gwesteion – gadewch i mi drefnu!