Adnewyddu Addunedau

Ffordd hyfryd o ddweud “rwy’n dy garu di” ar ôl blynyddoedd o fywyd  priodasol. Mae Adnewyddu Addunedau, wedi dod yn boblogaidd yn ystod y blynyddoedd diwethaf –  os yn dathlu eich penblwydd priodas cyntaf neu’n dathlu 50 mlynedd o  fywyd hapus gyda’ch gilydd, mae’n ffordd arbennig iawn o fynegi eich cariad a’ch ymrwymiad i’ch partner gydol oes.

Chi fel cwpl fydd yn  y sedd yrru a wir i chi does dim rheolau o gwbl i beth allwch ddewis ar gyfer eich diwrnod mawr – y lleoliad, y gerddoriaeth, y darlleniadau, mae’r cyfan i fyny i chi.  Beth am i chi ychwanegu elfen wahanol fel rhwymo dwylo (handfasting) neu goleuo canhwyllau fel rhan o’ch seremoni?

Byddaf yn cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod fel cwpl er mwyn casglu eich syniadau ac hanesion, dod a’r cwbl at ei gilydd a’i gyflwyno i’ch teuluoedd a’ch ffrindiau mewn ffordd arbennig.

Stori cariad sy’n unigryw i chi.