Priodas

Mae’n debyg mai’r achlysur hwn fydd un o’r diwrnodau gorau eich bywyd, felly gadewch i mi sicrhau eich bod yn cael seremoni fythgofiadwy. Braint bydd cael creu a chyflwyno seremoni briodas bersonol sy’n gweddu i’r ddau ohonoch. 

Y chi fel cwpl fydd yn  y sedd yrru a wir i chi does dim rheolau o gwbl i beth allwch ddewis ar gyfer eich diwrnod mawr – y lleoliad, y gerddoriaeth, y darlleniadau, mae’r cyfan i fyny i chi.  Beth am i chi ychwanegu elfen wahanol fel rhwymo dwylo (handfasting) neu goleuo canhwyllau fel rhan o’ch seremoni?

Byddaf yn cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod fel cwpl er mwyn casglu eich syniadau ac hanesion a dod a’r cwbl at ei gilydd a’i gyflwyno i’ch teuluoedd a’ch ffrindiau mewn ffordd arbennig.

Byddddaf hefyd yn hapus i ystyried unrhyw thema sydd gennych dan sylw. Does dim angen  setlo am rywbeth sy’n teimlo fel priodas amhersonol a diflas.

Mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!

Felly os ydych chi eisiau dawnsio eich ffordd i lawr yr eil,  canu eich hoff gan neu cynnig ‘shot’ o’ch hoff ddiod i’ch gwesteion – gadewch i mi drefnu’r cwbl.