O Ionawr 1af, 2024 – pris seremoni briodas fydd £600. Mae fy mhris yn cynnwys:
- Sgwrs gychwynnol a hamddenol trwy Zoom neu alwad ffôn. Cyfle i chi rannu eich syniadau neu ofyn am unrhyw gyngor neu ysbrydoliaeth. Os byddai’n well gennych gyfarfod wyneb yn wyneb – mae hynny’n iawn hefyd!
- Os ydych yn hapus i symud ymlaen yna byddaf yn sicrhau eich dyddiad ac yn trafod y telerau ac amodau.
- Byddaf yn gofyn i’r ddau ohonoch lenwi holiadur cyplau – bydd hyn yn rhoi sail ardderchog i mi gychwyn creu eich seremoni berffaith.
- Byddaf yn darparu cefnogaeth ar gyfer ysgrifennu eich addunedau, yn cynnig awgrymiadau ar gyfer darlleniadau, elfennau symbolaidd a cherddoriaeth. Cofiwch – mae’r posibiliadau’n ddiddiwedd!
- Yna byddwn yn cael golwg ar ddrafft cyntaf eich seremoni – cyfle i chi roi unrhyw adborth i mi. Byddaf yn ailddrafftio i chi hyd at 3 wythnos cyn eich priodas
- Bydd cyfle i fynd drwy’r seremoni rhag ofn eich bod am wneud newidiadau munud olaf.
- Efallai y gallaf fynychu ymarfer yn eich lleoliad (yn amodol ar drafodaeth bellach)
- Ar y diwrnod mawr, byddaf yn siŵr o gyrraedd mewn da bryd ar gyfer eich seremoni (dim llai na 2 awr ynghynt) i sicrhau fod popeth yn ei le ac i dawelu unrhyw nerfau.
- Byddaf wrth law i helpu gydag unrhyw beth sydd angen sylw – mae fy mhecyn argyfwng gyda mi bob amser – pinnau diogel, nodwydd ac edau, fflasg clun!
- Byddwch yn cael copi o’ch sgript seremoni, addunedau a darlleniadau, wedi’u cyflwyno mewn ffolder wedi’i bersonoli, i chi ei gadw am byth
I gysylltu a mi ynghlyn a bwcio apwyntiad plis ebostwich [email protected] gyda’ch enw, rhif cyswllt, ffordd gorau o gysylltu a eich gofynion.
Gobeithiwn mi fydd yna system bwcio ar gael ar ein wefan yn fuan!