Amdanaf i

Rwy’n enedigol o Gaernarfon ac yn falch iawn o fod yn Gofi Cymraeg!  Yn ogystal â bod yn ddathlydd modern, ‘rwyf yn gweithio yn y byd addysg ac rwyf wrth fy modd yn ymgysylltu a phobl ac yn gwranod ar eu storiau – ac wrth gwrs, rwyf wrth fy modd gyda phriodasau!

Wrth i mi fynd ar y daith o drefnu priodas gyda fy merch, cefais gyflwyniad i fyd y Dathlwyr (Celebrants) am y tro cyntaf.  Syrthiais mewn cariad yn syth gyda’r syniad  ac rwyf yn ddathlydd gymwysedig fy hun erbyn hyn! (Academy of Modern Celebrancy).

Mae fy nheulu a ffrindiau yn hollbwysig i mi ac rwyf wrth fy modd yn gwario amser gyda nhw – boed o yn ein hoff dy bwyta neu’r caffi bach lleol!

Rwyf wrth fy modd yn gwneud ychydig o gerdded gwledig a phwy all fy meio gyda thirwedd hardd gogledd Cymru ar fy nhrothwy – ac  mae’n gyfle gwych i mi ddod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer unrhyw achlysur. Dwi’n hoff iawn o deithio  – Efrog Newydd yw fy hoff le yn y byd!

O! – a dwi wrth fy modd yn crosio!